
Amgueddfa Glowyr De Cymru
​
Hanes Byr o Gwm Afan.
Gan: Glyn Thomas.
(Cyn ysgrifennydd AGDC)
​
​
Ym 1970, daeth un o'r penodau pwysicaf yn hanes Cwm Afan i ben pan gaeodd y lofa olaf, sef Glofa Glyncorrwg, yng Nglyncorrwg a oedd yn fwy adnabyddus yn yr ardal hon fel ‘South Pit’. Mewn cwm lle bu cymuned weithgar iawn, bu'r trigolion yn dibynnu ar gloddio am eu bywoliaeth am dros gyfnod o dua 200 mlynedd.
Os ydych yn edrych yn ôl ar hanes mwyngloddio glo yn yr ardal i gyd fe welwch fod glo yn cael ei weithio gan y Mynachod yn Abaty Margam yn y flwyddyn 1247. Rhoddwyd caniatâd gan yr Abad yn Abaty Margam i ffermwr yn Fferm Duffryn Fredul (??) yn Ardal y Bryn weithio am rent o ugain swllt a dwy geiniog yn flynyddol Roedd y les i redeg am 70 mlynedd, o 1516 OC, a oedd yn caniatáu i'r ffermwr weithio'r mwyn ar ei dir ef hyd at lan y môr.
Pe bai’n bosibl i rywun edrych yn ôl dros flynyddoedd y gorffennol yng Nghwm Afan yna byddent yn gweld, ymhell cyn i’r Chwyldro Diwydiannol ddigwydd, ei fod yn ddyffryn hardd iawn gyda’i goed gwern, derw, onnen a bedw (no need for ‘wasgaru) gyda thir pori garw ar lethrau uchaf y dyffryn a rhywfaint o dir pori cyfoethog ar hyd glannau’r afon.
Dechreuodd mwyngloddio yn y Cwm o ddifri pan oedd y pren oedd ei angen ar gyfer mwyndoddi er mwyn gwneud haearn a dur bron wedi dod i ben ac wrth gwrs glo oedd y deunydd newydd, ac roedd digonedd ohono yng Nghwm Afan. Dechreuodd y datblygiad cynharaf o fwyngloddio ar raddfa fawr tua 1730, gyda mwyngloddiau’n agor yng Nghwm Afan ac eto ym 1750 yng Nghefn Mawr a Blaencregan lle cludwyd y glo hyn i’r gefeiliau yng Nghastell-nedd a Llansawel, a’r cyfrwng cludo ar yr adeg hon oedd defnyddio asynnod gyda basgedi wrth eu hochrau.
Tua 1839 arwyddwyd gweithredoedd a chytunwyd arnynt gan y tirfeddianwyr a Robert Parsons a chyfaill i osod tramffordd o Flaencregan i Aberdulais i gludo glo o’r pyllau hyn i fasn camlas Aberdulais, lle byddai’r glo’n cael ei drosglwyddo i gychod a’i gludo i Abertawe. Yn anffodus ni chafodd y ddau berson hyn fawr o lwc gyda’r prosiect; ac aethant yn fethdalwyr a dyma sut y daeth Tramffordd Tonmawr i gael ei hadnabod fel ‘Ffolineb y Person / Ffolineb yr Offeiriad’.
Gyda dyfodiad y gwaith glo yng Nghwm Afan bu hefyd dechrau oes y rheilffyrdd. Y rheilffordd gyntaf yng Nghwm Afan oedd ‘Rheilffordd Mwynau De Cymru’ lle pasiwyd Deddf yn y Senedd ym 1853 ar gyfer y prosiect hwn. Peiriannwyd y rheilffordd hon gan y peiriannydd enwog I.K.Brunnel a chyrhaeddodd y rheilffordd Gwm Afan gyferbyn â Pharc Gwledig Afan Argoed ym 1859 a chafodd ei hymestyn i Glyncorrwg erbyn 1861 ar gost gyflawn o £120,000. Cychwynnodd y rheilffordd hon yn nociau Llansawel gyda graddiant serth i fynd i fyny trwy Ffin Cwm Criddian i Donmawr ac yna trwy dwnnel i Gwm Afan. Nid oedd y rheilffordd hon yn cael ei defnyddio ar gyfer traffig teithwyr tan bron cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf, cyn hyn arferai trigolion Glyncorrwg sgwrio’r wagenni glo bob blwyddyn ym mis Medi i deithio i’r ffair yng Nghastell-nedd. Adeiladwyd y rheilffordd hon yn benodol i gludo glo o Lyncorrwg i’r Doc yn Llansawel. Gyda dyfodiad y rheilffordd hon agorwyd mwy a mwy o lofeydd yng Nghwm Afan gyda’r cyntaf yng Nglyncorrwg, sef The Welsh Main Colliery, a agorodd yn 1858, wedyn Glofa Crows Nest yn 1864, Glofa Gogledd Rhondda Cynon Taf. Ar yr un rheilffordd agorodd glofa Ynyscorrwg ym 1913 a Glofa Nantewlaeth (??) ym 1919.
Nid yw ond yn iawn sôn am y rheilffordd arall a ddaeth i’r dyffryn hwn a dyna Reilffordd Llynfi ac Ogwr a ddaeth trwy dwnnel o Gwm Llynfi ym 1877 pan adeiladwyd traphont ar draws yr afon Afan ger Y Cymer i gysylltu â Rheilffordd Mwynau De Cymru. Roedd y twnnel 1,591 llathen o hyd, eto pan ymestynnwyd y rheilffordd hon i Abergwynfi, dechreuwyd tyllu Glofa’r Afan ym 1880. Enw iawn Glofa’r Afan oedd Glofa'r Great Western gan fod y rheilffordd a'r lofa yn eiddo i Gwmni Rheilffordd y Great Western.
Wrth edrych yn ôl ar bentrefi Abergwynfi a Blaengwynfi, yn eu hamser roeddynt yn bentrefi bach prysur iawn gyda, ar un adeg benodol, chwe phwll glo yn gweithio yno. Yn wir roedd llysenw yn bodoli ar gyfer y pentrefi a oedd yn fwy adnabyddus fel ‘The Cape’ mae rhai yn dweud ei fod yn cael ei alw’n hyn oherwydd y ffyniant economaidd a fodolai yn y pentrefi drwy’r nifer o lofeydd a weithiai yno ar y pryd, rheswm arall am y llysenw yw oherwydd y term daearegol.
Nawr rydym yn dod at y rheilffordd olaf yng Nghwm Afan a honno yw Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe a estynnwyd o Bontrhydyfen i'r Cymer ym 1885 ac oddi yno i Flaengwynfi ac yna trwy Dwnnel y Rhondda i Gwm Rhondda ym 1890 pan agorwyd y Twnnel yn swyddogol. Yr oedd y twnnel hwn yn 3,443 o lathenni o hyd a gysylltai â Rheilffordd y Taff Vale i helpu i leddfu baich ar Reilffordd Taf gan na allai ymdopi â’r traffig glo oedd yn mynd i Ddociau Caerdydd. Roedd hyn yn golygu bod rhywfaint o’r glo o Gwm Rhondda yn cael ei gludo drwy’r Twnnel i fynd â glo i Ddociau Port Talbot ac Abertawe.
Ar ôl hyn i gyd, roedd prif ddiwydiannau’r cymoedd wedi dirywio, gyda’r pyllau glo yn cau yn raddol nes bod dim pyllau glo o gwbl yng Nghwm Afan. Mae rhai creithiau’r chwyldro diwydiannol a effeithiodd ar bawb oedd yn byw yng Nghwm Afan i’w gweld o hyd, ond yn y pen draw byddant i gyd wedi mynd ac wedi mynd yn angof a bydd y Cwm yn dychwelyd i’w harddwch naturiol ei hun.
Glofa Cynon, Afan Argoed.
Mae’r lofa hon wedi’i lleoli yng Nghwm-yr-Argoed. Roedd yn fwynglawdd ar ffurf ‘lefel’, yn gweithio haen Pistol y Wern â thrwch o 15 modfedd a haen Wern Ddu â thrwch o 9 modfedd. Fe'i cofnodwyd yn bwll glo yn gyntaf ym 1895 gyda’r perchnogion fel David Rees & Co. o dan yr enw Cwmni Glofa Cynon, a oedd ar y pryd yn cyflogi 33 i 40 o lowyr.
Cludwyd y glo i geg y lefel gan dramiau a dynnwyd gan geffylau lle cawsant eu gostwng wedyn i’r sgriniau i’w llenwi i wagenni wedi’u gosod ar linell gangen (leiniau aros) Rheilffordd y Rhondda a Bae Abertawe, a deithiai o’r brif reilffordd i Gwm-yr-Argoed am dua 1,500 o lathenni - gallwch weld waliau’r hen sgriniau gerllaw llwybr Cynon yn awr ar ei ochr isaf. Gostyngwyd y tramiau glo i'r sgriniau trwy gyfrwng drwm a oedd yn gweithredu fel winsh cydbwysedd lle'r oedd tramiau llawn a oedd yn teithio i lawr y llethr fach yn tynnu'r tramiau gwag yn ôl i fyny i'r lefel i'w llenwi gan y dynion a oedd yn gweithio yn Lefel Cynon.
Erbyn troad y ganrif (1900) roedd tua 100 o ddynion yn gweithio yn y lofa hon. Parhaodd y lefel hon i weithio a chyflogwyd dros 200 o ddynion, er ar ôl tua 1904 agorwyd pwll glo gyferbyn â phentref Cynonville, nad oedd wedi'i adeiladu ar y pryd. Er hynny, suddwyd y Pwll i ddyfnder o tua 200 llath i wythïen Rhif 2 y Rhondda. Dywedir bod gwaelod y Pwll bron ar yr un lefel a’r Afon Afan - roedd y drifft gwyntyllu ar gyfer y pwll hwn i lawr ar lan yr afon Afan.
Parhaodd lefel Cynon i weithio yn ogystal â Phwll Cynon. Roedd y pwll yn ei anterth yn cyflogi tua 500 o ddynion, mewn gwirionedd roedd yn bwriadu cyflogi mwy o ddynion ond roedd cynlluniau ar y gweill i adeiladu gardd-bentref yn Cynonville ond mae'n debyg oherwydd dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hyn. Mae’n rhaid nodi bod y dull o gludo glo o lefel Cynon wedi newid dros y blynyddoedd, tra bod y glo wedi'i sgrinio a'i lenwi i wagenni ar ei seidins ei hun, gwnaed i ffwrdd â hyn pan adeiladwyd ac agorwyd prif ffordd Cwm Afan ym 1922. Adeiladwyd y ffordd hon yn rhannol gyda'r malurion a'r slag o Lefel Cynon a chloddfa ddrifft Argoed. Parhaodd y cysylltiad â Rheilffordd Abertawe, a bu defnydd ohoni hyd at gloddfa ddrifft Bae Afan. Yn y 1940au, at y diben hwn, adeiladwyd pont ffordd i gario ffordd Cwm Afan (yr A 4107) dros gangen y rheilffordd i seidins a sgriniau Pwll Glo Argoed.
Mae'n rhaid nodi hefyd bod yr 'arhosfan' rheilffordd ar gyfer y dynion a weithiai yn y ddwy lofa yng Nghwm-yr-Argoed wrth ymyl y rheilffordd ar waelod y bont. Pan ddechreuwyd cynhyrchu ym Mhwll Cynonville yn llawn adeiladwyd Arhosfan Cynonville.
Caeodd Glofa Cynonville tua 1923 ychydig ar ôl streic y glowyr ym 1921, a chredir gan rai mai dyma oedd yn rhannol oedd y rheswm am gau’r pwll. Roedd Pwll Cynon yn defnyddio Weindiwr Trydan a'r gred oedd mai dyma'r ail Beiriant Weindio Trydan a osodwyd ym Maes Glo Cymru.
Pan wladolwyd y Pyllau Glo ym mis Ionawr 1947, cafodd Lefel Cynon ei gynnwys wrth genedlaetholi holl Byllau Glo'r wlad. Ar ôl y cyfnod cenedlaetholi aeth Lefel Cynon yn ôl i berchnogaeth breifat, o dan drwydded, pan gyfyngwyd uchafswm nifer y dynion a gyflogwyd i 30 o bobl. Roedd glo yn dal i gael ei gludo o'r pwll hwn gan ddramiau ceffyl.