top of page

Streiciau'r Glowyr 1974-84

​Yn y 1970au roedd Glowyr yn ceisio am godiad cyflog am y swyddi peryglus yr oeddent yn eu gwneud yn y diwydiant glo. Cynigiodd Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM/UCG) godiad cyflog o 43%. Methodd y trafodaethau rhwng y llywodraeth a'r undebau â dod i gytundeb ac ym mis Ionawr 1972 galwodd yr undebau am streic. Ddiwedd Chwefror, daeth UCG a’r Llywodraeth i gytundeb a daeth y streic i ben. Fodd bynnag, bu streic pellach ym mis Ionawr 1974 a arweiniodd at brinder glo ar gyfer gorsafoedd pŵer glo gan arwain at doriadau trydan ledled y wlad. Arweiniodd hyn at wythnos dri diwrnod lle cyfyngwyd ar y defnydd o drydan.

​

Roedd y llywodraeth Dorïaidd dan arweiniad Edward Heath wedi mabwysiadu llinell galed gyda'r undebau a streicio. Cynhaliwyd Etholiad Cyffredinol ym mis Chwefror 1974 pan ystyriwyd bod yr wythnos waith dri diwrnod yn broblem fawr i bob plaid. Arweiniodd yr etholiad hwn at lywodraeth leiafrifol Llafur dan arweiniad Harold Wilson a gytunodd i godiad cyflog o 35% i'r glowyr. Daeth hyn â diwedd i’r streic a'r wythnos waith dri diwrnod ym mis Mawrth 1974. Cafodd y glowyr godiad cyflog pellach ym mis Chwefror 1975

​

Yn y blynyddoedd cyn yr 1980au gwelodd y diwydiant mwyngloddio byllau’n cau a dirywiad mewn cynhyrchu glo gan arwain at golli llawer o swyddi. Roedd y Bwrdd Glo Cenedlaethol am gau tua 20 o lofeydd. Etholodd UCG arweinydd newydd ym 1981 o'r enw Arthur Scargill o Swydd Efrog. Roedd e yn erbyn cau unrhyw byllau pellach ac roedd yn awyddus i herio’r Llywodraeth yn ogystal â'r Bwrdd Glo Cenedlaethol dros gau pyllau.

​

Galwodd Arthur Scargill am streicio yn erbyn cau pyllau. Gofynnwyd i aelodau UCG bleidleisio dros streicio ar dri achlysur a'r canlyniad oedd na i streicio. Pan gyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y byddai rhagor o byllau'n cau ym mis Mawrth 1984 arweiniodd at lowyr yng nglofa Cortonwood, Swydd Efrog, yn cerdded allan. Arweiniodd hyn at aelodau Swydd Efrog o UCG yn cymeradwyo streic yn seiliedig ar ganlyniad pleidlais o 1981, cafodd hyn ei herio yn ddiweddarach yn y llys.

​

Nid oedd llawer o ardaloedd glofaol o blaid streicio, fodd bynnag gwthiodd arweinyddiaeth UCG gan Arthur Scargill ymlaen gyda streic heb bleidlais genedlaethol gan ei aelodau. Arweiniodd hyn at wrthdaro mawr rhwng UCG dan arweinyddiaeth Arthur Scargill, Y Bwrdd Glo Cenedlaethol dan arweinyddiaeth Ian McGregor a’r Prif Weinidog Margaret Thatcher.

​

Yn ystod y streic hir flwyddyn bu Glowyr yn picedu pyllau glo a safleoedd diwydiannol eraill megis gorsafoedd pŵer, gweithfeydd dur ac eraill oedd yn defnyddio glo. Arweiniodd hyn at wrthdaro rhwng y picedwyr a'r Heddlu. Cafodd unrhyw un a geisiodd groesi'r llinell biced ei frandio'n “fradwr” a achosodd raniadau o fewn cymunedau lleol. Bu’n rhaid i’r glowyr a’u teuluoedd ddioddef blwyddyn o galedi heb unrhyw dâl. Fodd bynnag, cefnogodd cymunedau lleol y glowyr oedd ar streic trwy sefydlu ceginau cawl, parseli bwyd ac apeliadau ar gyfer teuluoedd y glowyr.

​

Dyfarnwyd bod y streic yn anghyfreithlon ym mis Medi 1984, gan na chynhaliwyd pleidlais genedlaethol o aelodau UCG. Daeth i ben ar 3 Mawrth 1985. Er iddynt gael eu trechu, dychwelodd y glowyr i'w gwaith gan gerdded y tu ôl i fandiau’r pyllau glo a baneri'r cyfrinfeydd.

​

Cytunodd y BCG i ohirio cau pum pwll: Bullcliffe Wood, Cortonwood, Herrington, Polmais a Snowdown. Fodd bynnag, yn y degawdau dilynol, parhaodd y BCG i gau pyllau. Caeodd pwll glo dwfn olaf Cymru, Aberpergwm, Glyn Nedd, ym 1985 a’r olaf yn y DU, Kellingly, Swydd Efrog, yn 2015.

Gwyliwch ein fideo o atgofion glöwr wedi ymddeol o streic y Glowyr ym 1984

South Wales Miners Museum

Afan Forest Park

Cynonville

Port Talbot

SA13 3HG

  • Youtube
  • Facebook
  • Instagram
© Copyright
bottom of page