
Amgueddfa Glowyr De Cymru
Gellir trefnu Ymweliadau Ysgol ar gyfer pob oedran

Os ydych yn chwilio am ymweliad cofiadwy a deniadol, neu i gyfoethogi gweithgareddau yn yr ysgol, yna mae gan Amgueddfa Glowyr De Cymru y pecyn perffaith i’w gynnig i chi a’ch disgyblion.
Bydd ein staff yn gweithio’n uniongyrchol gydag athrawon i adeiladu rhaglen bwrpasol i gynnwys y pwnc penodol sy’n cael ei addysgu yn yr ysgol, er enghraifft hanes mwyngloddio, chwyldro diwydiannol neu oes Fictoria.
Mae ymweliadau'n cynnwys taith o amgylch yr arddangosion dan do ac awyr agored, sesiwn crefft/holi ac ateb ar bwnc penodol a'r tywydd yn caniatáu taith gerdded treftadaeth.
Gallwn hefyd gynnig ymweliadau ar gyfer achlysuron arbennig fel Dydd Gŵyl Dewi neu weithgareddau natur.
Defnyddiwch ein Ffurflen Cyswllt a bydd aelod o'n tîm mewn cysylltiad i drafod eich gofynion.