
Amgueddfa Glowyr De Cymru
Pit Bottom i'r Senedd
Vernon Hartshorn OBE MP
Vernon Hartshorn OBE AS, oedd y glowr Cymreig cyntaf i ddod yn Weinidog Cabinet yn ystod blynyddoedd cythryblus ddechrau’r 20fed ganrif. Yn arweinydd glöwyr, undebwr llafur a gwleidydd rhagorol, mae ei gyfraniad sylweddol i wella cyflogau ac amodau glowyr wedi cael ei anghofio i raddau helaeth.
​
Wedi'i eni yn Rhisga, Sir Fynwy ym 1872 dechreuodd weithio fel glöwr tan ddaear yn 14 oed. Bu'n gweithio ar y talcen glo am 12 mlynedd cyn mynd ymlaen i fod yn Ddyn Gwirio Pwysau (?) a chynrychiolydd glowyr. Cymerodd ran flaenllaw yn natblygiad Ffederasiwn Glowyr De Cymru, ac yn 1905 etholwyd ef yn Asiant y Glowyr dros Faesteg. Erbyn 1912 roedd yn cael ei ddisgrifio fel yr amlycaf a galluocaf o'r arweinwyr Sosialaidd ym maes glo De Cymru. Cafodd ei ethol gyntaf yn AS dros etholaeth newydd Ogwr yn 1918, sedd a gadwodd hyd ei farwolaeth ym 1931.
​
Byddai Hartshorn yn gwasanaethu fel Postfeistr Cyffredinol yn Llywodraeth Lafur gyntaf Ramsay Macdonald ym 1924. Roedd hefyd yn aelod o Gomisiwn Simon yn archwilio i newid cyfansoddiadol yn India drefedigaethol. Yn olaf, byddai'n gwasanaethu fel Arglwydd Sêl Gyfrin yn Llywodraeth Lafur 1931. Yn y rôl hon cafodd y dasg o fynd i'r afael â diweithdra, ond yn anffodus bu farw cyn iddo allu cwblhau'r gwaith.
___%5B___edited_.jpg)