top of page

Ein Trên Stêm

Adeiladwyd y locomotif bach gan William Thomas a oedd yn gweithio yng Nglofa Glyncymer tan 1909. Symudodd yn ddiweddarach i Birmingham lle daeth yn brentis trydanwr gyda GEC. Yn ei amser hamdden, roedd yn beiriannydd model, ac fe adeiladodd y model o'r enw “Apology” o'r dechrau ym 1922. Bu farw William yn 1951 cyn cwblhau'r trên bach. Symudodd mab William, Harold Thomas, i Awstralia, ond rhoddodd Harold y trên i’r Amgueddfa yn y gobaith y byddai gwaith ei dad yn cael ei gwblhau. Cwblhawyd y gwaith gan wirfoddolwyr yn yr amgueddfa yn 2013. Ailenwyd y Trên yn Glyndŵr er cof am Glyn Thomas, cyn-gyfarwyddwr/ysgrifennydd Amgueddfa Glowyr De Cymru. Mae Glyndwr bellach yn rhedeg ar ddarn o drac 9.5" yn yr amgueddfa.

volunteers & train.jpeg

Yr actor Michael Sheen a aned ym Mhort Talbot yn clywed hanes Glyndwr gan un o wirfoddolwyr yr Amgueddfa

Gwyliwch Glyndwr ar waith

South Wales Miners Museum

Afan Forest Park

Cynonville

Port Talbot

SA13 3HG

  • Youtube
  • Facebook
  • Instagram
© Copyright
bottom of page